Mae Leonie yn artist a ddarlunydd llyfrau plant yng Nghaerdydd sydd wedi cyhoeddi sawl llyfr yn Saesneg (Dragon Press) a Chymraeg (RILY) sydd ar werth mewn siopau llyfrau mor bell i ffwrdd ag Awstralia.
Yn wreiddiol o gefn gwlad ogledd-ddwyrain Cymru, astudiodd hi Gelfyddyd Gain ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac ers hynny mae wedi gwneud ei chartref yn y brifddinas.
Mi oedd gwaith Leonie, 'How do you feel Little Mouse? / Sut wyt ti'n teimlo Llygoden fach?' yn Llyfr y Dydd gan Book Trust Prydain a Llyfr y Mis gan Book Trust Cymru ym mis Hydref 2023 ac roedd hefyd yn rhan o'u rhestr 10 llyfr Cymraeg gorau yn 2023.
Mae teitl diweddaraf Leonie gyda'r awdur Mari George, 'Sally's Tale / Diwrnod Cyntaf Wini' wedi'i gynnwys yng Nghanllaw Llyfrau Gwych 2025-26 y Book Trust.
Does dim byd gwell gan Leonie na gwneud i bobl, hen ac ifanc, wenu gyda'i darluniau.
